Ma's o 'ma
7 Jun, 2017
1 minute read

Dw i wedi bod yn ysgrifennu cerdd ar gyfer cystadleuaeth Gŵyl y Dysgwyr Sir Benfro. Ar ôl arllwys sawl awr yn ysgrifennu, ail-ysgrifennu, ac yn edrych lan pob gair yn yr iaith, (cystadleuol? fi?) mae wedi gorffen. Dw i’n meddwl.

Roedd y thema’r cystadleuaeth ‘mur’. Achos Gŵyl y Dysgwyr yw e, ro’n i wedi bod yn meddwl am y barrier iaith, a’r waliau’r dosbarth.

Dyma fe:

Ma’s o ‘ma

Dim ond chwech o saith tan naw
Rhwng pedair wal, yn ddistaw
Yn pipo dros fur heniaith
Cyn cael ein saethu i lawr

Fe ddylwn i dorri’r iâ
Rhaid i fi fy atgoffa
I ymweld â’r byd arall
Allan, drwy’r drws, ma’s o ‘ma

Gadewch y laptop ar gau
Dewch â’ch trwyn ma’s o’r llyfrau
Tu hwnt i’r dosbarth a’r cwrs
A chewch sgwrs ‘da un, neu ddau


Back to posts