dysgu cymraeg
7 Jun, 2017
2 minutes read

Daeth fy nheulu i Gymru yn 2012. Ganwyd fy ngwraig yn Sir Benfro, a ro’n ni’n symud — â dau gi a babi — yn agosach at ei theulu. “Hoffwn i fyw tramor”, meddais. Roedd syniad ‘da fi am fwy mewn bwthyn yn y cefn glad, mewn cymuned Cymraeg, yn byw’r freuddwyd. Roedd rhaid i ni ddysgu Cymraeg. Siwr o fod, ar ôl yr haf, ro’n ni’n gofrestru ar gwrsiau Cymraeg yn Hwlffordd.

Roedd hynny pum mlynedd yn ôl. A ble dyn ni’n byw nawr? Arberdaugleddau, wrth gwrs! Tasech chi ddim yn nabod Aberdaugleddau, mae hi’n dre borth ar yr Afon Cleddau, yn Sir Benfro. “Lloegr bach, tu hwnt i Gymru” yw hi; mae mwy o bobl yn siarad Urdu na Chymraeg yn yr ardal. Dyw hi ddim y pentre bach o fy mreuddwyd, ond my cymeiriad ‘da hi. Felly, mae fy rhesymau dysgu Cymraeg wedi newid. Does dim angen arna i siarad Cymraeg yn y dre, ond dw i’n ffeindio rhesymau newydd trwy’r amser.

Pan o’n i’n dechrau dysgu, roedd fy merch henaf bron yn un oed. Wrth hi’n dysgu siarad Saesneg, baswn i’n gofyn i fy hunan ‘ga i ddweud hynny yn Gymraeg?’. Mae hi’n bum oed nawr, ac mae ei Saesneg yn well na fy Nghymraeg. Ers dechrau’r Cylch Meithrin, mae ei Chymraeg yn wella yn gyflym hefyd. Bydd hi’n well na fi cyn bo hir. Bydd rhaid i fi gadw lan, taswn i eisau helpu gya’i gweith cartref, neu deall beth mae hi’n dweud amdana i.

Mewn ffordd, my rhydydd ychwanegol ‘da fi, achos dw i’n dod o’r Alban. Dw i’n nabod rhai o bobl sy’n poeni am ddysgu’r iaith, achos mae’n teimlo fel prawf o eu hunaniaeth genedlaethol. Dyma problem Saesneg, wrth gwrs. Dim ond un gair gyda Saesneg am yr iaith a’r genedlaeth. Mae ‘Cymreig’ a ‘Cymraeg’ yn eiriau gwahanol yn Gymraeg.

Mae’n ddidorol i fi bod yr anthem genedlaethol yn canu am wlad llawn o feirdd a chantorion, wrth cymaint o ni yn rhewi pan mae rhywun yn gofyn cwestiwn ‘yes/no’.

Weithiau, mae Cymraeg yn teimlo fel cymdeithas cyfrinach. Dw i’n byth yn siwr os rhwyun yn siarad yr iaith.


Back to posts